Blog

Cymariaethau Rhwng Cystadlaethau Talent

Buais yn ffodus iawn i fod yn rhan o gystadleuaeth Y Llais ar S4C yn ddiweddar a hoffwn edrych ar beth sy’n parhau poblogrwydd y rhaglenni talent. Gallwn ni edrych ar y rhaglen ‘Opportunity Knocks’ fel enghraifft gynnar o raglen dalent ar y teledu – sef dechrau gyrfa lwyddiannus Mary Hopkin o Bontardawe wrth gwrs! (Mae nifer o enwau enwog gyda ni yng Nghwm Tawe wyddoch chi!) Efallai bod rhaglenni o’r 60au wedi dechrau ein cariad tuag at dalent ar y teledu.

Daeth diwedd y 90au a’r milflwyddiant newydd â sawl raglen dalent i’r sgrin fach. Popstars oedd un, lle cafodd band newydd bop ei greu mas o grŵp o gantorion, sef Hear’say. Wedi hynny daeth raglenni fel Pop Idol, lle ddechreuodd gyrfaoedd Will Young a Gareth Gates ac yn fwy diweddar mae’r diddordeb a’r cyfareddiad wedi parhau gyda rhaglenni megis Britain’s Got Talent a The Voice UK. Ers llynedd, mae’r ffenomenon wedi cyrraedd ein sgriniau yng Nghymru gyda Y Llais ar S4C.

Y gwahaniaethau rhwng Y Llais, The Voice UK a Britain’s Got Talent efallai yw’r ffaith bod elfennau o sioc yn perthyn i’r olaf. Gyda BGT, mae’r act yn gallu bod yn unrhyw beth o ddawns, i act gomedi ac wrth gwrs i berfformiad canu. Yn aml, er mwyn pwrpasau adloniant, gallwn gael ein syfrdanu gan dalent wych ac sy’n amlwg o answadd ardderchog. Er hyn, fel rhan o’r rhaglen, cawn ein harswydo gan actiai rhyfedd, sy’n dod â sioc ac efallai sydd o ansawdd gwael, efallai fel tacteg i ddenu gwylwyr. Mae fformat y lleoliad, y gynulleidfa a’r beirniaid yn dra gwahanol i fformat The Voice UK ac Y Llais gan fod y rhaglenni hynny yn canolbwyntio ar ganu a’r lleisiau yn unig. Hefyd, er bod yn debyg i BGT gyda phedwar beirniad yn gwylio a gwrando ar y perfformiadau, yn achos Y Llais a The Voice UK, mae’r beirniaid a’u cefnau tuag at y llwyfan ac yn gwrando ar y lleisiau yn unig. Yr elfen ‘sioc’ i raglen Y Llais a The Voice UK yw bod y beirniaid yn troi yn eu cadeiriau coch eiconig tuag at y llwyfan os ydynt yn hoffi ansawdd llais y cantorion. Bronwen Lewis – a oedd yn gystadleuwraig ar The Voice UK ei hun flynyddoedd yn gynt, Aleighcia Scott, Yws Gwynedd a’r enwog ac amryddawn Syr Bryn Terfel yw beirniaid Y Llais. Roeddwn i’n hynod ffodus i gael Aleighcia ac Yws yn troi eu cadeiriau tuag ataf yn ystod fy mherfformiad yn y clyweliadau cudd a ddewisais yr hyfryd Aleighcia fel mentor i mi!

Bwriad Y Llais a The Voice UK yw rhoi platfform i gantorion a meithrin eu talent yn y byd cerddoriaeth. Gyda’r mentoriaeth yma, gall y perfformwyr ar y rhaglen dderbyn cyngor, dysg a hyder oddi wrthynt a meithrin y dalent hynny i’r dyfodol. Yn achos Y Llais – gwobr yr enillydd yw cyfansoddi a recordio cân gydag artist enwog o’r byd cerddoriaeth. Fel cystadleuydd eleni, rwyf wedi cael profiad anhygoel a bythgofiadwy i fod yn rhan o’r rhaglen a’r broses. Mae’n broses ddwys a heriol ond yn hynod fendigedig o’r dechrau i’r diwedd. I gloi, er bod y rhaglenni soniwyd amdanynt yn dra gwahanol i’w gilydd, un peth sy’n sicr, dyw’n diddordeb ni ynddynt ddim yn pylu ac mae hynny dim ond yn cryfhau ein cariad tuag at dalent newydd, p’un ai drwy ganu, actio, dawnsio neu actiai sy’n picio’r dychymyg. Lluniau: Trwy ganiatâd S4C, Hawlfraint 2026.