{"id":25,"date":"2026-05-07T18:20:40","date_gmt":"2026-05-07T18:20:40","guid":{"rendered":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/blog\/"},"modified":"2026-05-07T18:35:34","modified_gmt":"2026-05-07T18:35:34","slug":"blog","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/blog\/","title":{"rendered":"Blog"},"content":{"rendered":"<div class=\"wp-block-post-author\"><div class=\"wp-block-post-author__avatar\"><img alt='' src='https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/994378facac09f673a106935fe8fa7668bcf78abff385a25ce842296ddd32a4e?s=48&#038;d=mm&#038;r=g' srcset='https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/994378facac09f673a106935fe8fa7668bcf78abff385a25ce842296ddd32a4e?s=96&#038;d=mm&#038;r=g 2x' class='avatar avatar-48 photo' height='48' width='48' \/><\/div><div class=\"wp-block-post-author__content\"><p class=\"wp-block-post-author__name\">Emyr Wyn Williams<\/p><\/div><\/div>\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cymariaethau Rhwng Cystadlaethau Talent<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Buais yn ffodus iawn i fod yn rhan o gystadleuaeth Y Llais ar S4C yn ddiweddar a hoffwn edrych ar beth sy\u2019n parhau poblogrwydd y rhaglenni talent. Gallwn ni edrych ar y rhaglen \u2018Opportunity Knocks\u2019 fel enghraifft gynnar o raglen dalent ar y teledu \u2013 sef dechrau gyrfa lwyddiannus Mary Hopkin o Bontardawe wrth gwrs! (Mae nifer o enwau enwog gyda ni yng Nghwm Tawe wyddoch chi!) Efallai bod rhaglenni o\u2019r 60au wedi dechrau ein cariad tuag at dalent ar y teledu.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\" style=\"grid-template-columns:21% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"819\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075927-819x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-10 size-full\" srcset=\"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075927-819x1024.jpg 819w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075927-240x300.jpg 240w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075927-768x960.jpg 768w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075927.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 819px) 100vw, 819px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth diwedd y 90au a\u2019r milflwyddiant newydd \u00e2 sawl raglen dalent i\u2019r sgrin fach. Popstars oedd un, lle cafodd band newydd bop ei greu mas o gr\u0175p o gantorion, sef Hear\u2019say. Wedi hynny daeth raglenni fel Pop Idol, lle ddechreuodd gyrfaoedd Will Young a Gareth Gates ac yn fwy diweddar mae\u2019r diddordeb a\u2019r cyfareddiad wedi parhau gyda rhaglenni megis Britain\u2019s Got Talent a The Voice UK. Ers llynedd, mae\u2019r ffenomenon wedi cyrraedd ein sgriniau yng Nghymru gyda Y Llais ar S4C.<\/p>\n<\/div><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text has-media-on-the-right is-stacked-on-mobile\" style=\"grid-template-columns:auto 33%\"><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y gwahaniaethau rhwng Y Llais, The Voice UK a Britain\u2019s Got Talent efallai yw\u2019r ffaith bod elfennau o sioc yn perthyn i\u2019r olaf. Gyda BGT, mae\u2019r act yn gallu bod yn unrhyw beth o ddawns, i act gomedi ac wrth gwrs i berfformiad canu. Yn aml, er mwyn pwrpasau adloniant, gallwn gael ein syfrdanu gan dalent wych ac sy\u2019n amlwg o answadd ardderchog. Er hyn, fel rhan o\u2019r rhaglen, cawn ein harswydo gan actiai rhyfedd, sy\u2019n dod \u00e2 sioc ac efallai sydd o ansawdd gwael, efallai fel tacteg i ddenu gwylwyr. Mae fformat y lleoliad, y gynulleidfa a\u2019r beirniaid yn dra gwahanol i fformat The Voice UK ac Y Llais gan fod y rhaglenni hynny yn canolbwyntio ar ganu a\u2019r lleisiau yn unig. Hefyd, er bod yn debyg i BGT gyda phedwar beirniad yn gwylio a gwrando ar y perfformiadau, yn achos Y Llais a The Voice UK, mae\u2019r beirniaid a\u2019u cefnau tuag at y llwyfan ac yn gwrando ar y lleisiau yn unig. Yr elfen \u2018sioc\u2019 i raglen Y Llais a The Voice UK yw bod y beirniaid yn troi yn eu cadeiriau coch eiconig tuag at y llwyfan os ydynt yn hoffi ansawdd llais y cantorion. Bronwen Lewis \u2013 a oedd yn gystadleuwraig ar The Voice UK ei hun flynyddoedd yn gynt, Aleighcia Scott, Yws Gwynedd a\u2019r enwog ac amryddawn Syr Bryn Terfel yw beirniaid Y Llais. Roeddwn i\u2019n hynod ffodus i gael Aleighcia ac Yws yn troi eu cadeiriau tuag ataf yn ystod fy mherfformiad yn y clyweliadau cudd a ddewisais yr hyfryd Aleighcia fel mentor i mi!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n<\/div><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"819\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000076244-819x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13 size-full\" srcset=\"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000076244-819x1024.jpg 819w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000076244-240x300.jpg 240w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000076244-768x960.jpg 768w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000076244.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 819px) 100vw, 819px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text is-stacked-on-mobile\" style=\"grid-template-columns:33% auto\"><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"819\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075928-819x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-11 size-full\" srcset=\"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075928-819x1024.jpg 819w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075928-240x300.jpg 240w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075928-768x960.jpg 768w, https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/05\/1000075928.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 819px) 100vw, 819px\" \/><\/figure><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bwriad Y Llais a The Voice UK yw rhoi platfform i gantorion a meithrin eu talent yn y byd cerddoriaeth. Gyda\u2019r mentoriaeth yma, gall y perfformwyr ar y rhaglen dderbyn cyngor, dysg a hyder oddi wrthynt a meithrin y dalent hynny i\u2019r dyfodol. Yn achos Y Llais \u2013 gwobr yr enillydd yw cyfansoddi a recordio c\u00e2n gydag artist enwog o\u2019r byd cerddoriaeth. Fel cystadleuydd eleni, rwyf wedi cael profiad anhygoel a bythgofiadwy i fod yn rhan o\u2019r rhaglen a\u2019r broses. Mae\u2019n broses ddwys a heriol ond yn hynod fendigedig o\u2019r dechrau i\u2019r diwedd. I gloi, er bod y rhaglenni soniwyd amdanynt yn dra gwahanol i\u2019w gilydd, un peth sy\u2019n sicr, dyw\u2019n diddordeb ni ynddynt ddim yn pylu ac mae hynny dim ond yn cryfhau ein cariad tuag at dalent newydd, p\u2019un ai drwy ganu, actio, dawnsio neu actiai sy\u2019n picio\u2019r dychymyg. <em>Lluniau: Trwy ganiat\u00e2d S4C, Hawlfraint 2026.<\/em><\/p>\n<\/div><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cymariaethau Rhwng Cystadlaethau Talent Buais yn ffodus iawn i fod yn rhan o gystadleuaeth Y Llais ar S4C yn ddiweddar a hoffwn edrych ar beth sy\u2019n parhau poblogrwydd y rhaglenni talent. Gallwn ni edrych ar y rhaglen \u2018Opportunity Knocks\u2019 fel enghraifft gynnar o raglen dalent ar y teledu \u2013 sef dechrau gyrfa lwyddiannus Mary Hopkin [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-25","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/25","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=25"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/25\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":35,"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/25\/revisions\/35"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/emyr-wyn.co.uk\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=25"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}